Sgyrsiau Cyfiawnder Hinsawdd gan Cyfiawnder Hinsawdd Byd-eang Cymru
Ymunwch â Chyfiawnder Hinsawdd Byd-eang Cymru ar gyfer sgyrsiau pwerus fel rhan o Ddydd Gweithredu Byd-eang, gan ddod â lleisiau menywod, pobl ifanc, pobl o leiafrifoedd hil, pobl anabl, a chymunedau ar y rheng flaen ynghyd.
Gweld y Digwyddiad
Y mislif: Deall tlodi mislif a llwybrau i newid
Mae tlodi mislif yn broblem fyd-eang. Mae'n bwnc sy'n cyd-daro'n ddwfn ag iechyd, addysg, cydraddoldeb rhywedd, a hawliau dynol. Ymunwch â ni yn ein Cymuned Ymarfer Rhywedd nesaf, wrth i ni glywed gan ymgyrchwyr ac ymarferwyr am dorri tabŵs, atebion cynaliadwy, a chreu lle ar gyfer dysgu.
Gweld y Digwyddiad
Canolbwyntio ar Ofal Teulu: Adeiladu mudiad dros newid
Ym mis Gorffennaf, trefnodd SWIDN, Hub Cymru Africa, a Hope and Homes for Children ddigwyddiad gyda’i gilydd ar-lein, oedd yn agored i bawb, ac a oedd yn canolbwyntio ar ofal i blant sydd wedi’u hymyleiddio. Mae'r digwyddiad hwn yn ddigwyddiad sydd yn dilyn ymlaen o’r gweminar ym mis Gorffennaf. Mae wedi’i gynllunio i annog sefydliadau i barhau â'r sgwrs, ac rydym yn awyddus i adeiladu mudiad sy’n ymwneud â darparu gofal seiliedig ar deulu i blant.
Gweld y Digwyddiad
Diaspora Affrica Gogledd Cymru: Undod ar waith
Mae'r digwyddiad wyneb yn wyneb hwn yn dod ag aelodau o'r gymuned diaspora Affricanaidd yng ngogledd Cymru at ei gilydd i archwilio ffyrdd gwahanol o gymryd rhan mewn gwaith undod rhyngwladol.
Gweld y Digwyddiad
Cynhadledd Partneriaethau Iechyd Byd-eang Cymru 2025
Rydym yn falch o gyhoeddi bod ein cynhadledd iechyd allweddol ar gyfer y sector undod byd-eang yn dychwelyd eleni ar ddydd Llun, yr 8fed o Fedi yng Nghaerdydd, o dan y thema: "Trawsnewid Polisi: Eiriolaeth dros Gydraddoldeb Iechyd Byd-eang".
Gweld y Digwyddiad
Canolbwyntio ar ofal teulu: Beth sydd y tu ôl i ymgyrch newydd y DU ar ddiwygio gofal i blant?
Mae SWIDN, Hub Cymru Africa a Hope and Homes for Children, yn eich gwahodd i ddigwyddiad ar-lein cydweithredol, agored sydd yn canolbwyntio ar ddarparu gofal i blant sydd wedi’u hymyleiddio. Bydd y digwyddiad hwn, sydd wedi'i ddylunio i gysylltu a chefnogi elusennau a rhoddwyr yn y DU sy'n gweithio gyda phlant sy’n wynebu risg ar lefel rhyngwladol, yn rhannu adnoddau arfer da ac yn archwilio sut y gall cymdeithas sifil gymryd rhan yn ymgyrch fyd-eang Llywodraeth y DU ar gyfer gofal teulu.
Gweld y Digwyddiad
Cryfhau Bywoliaethau drwy Fenter Menywod
Ymunwch â ni ar gyfer y sesiwn hon o'n Cymuned Ymarfer Rhywedd, lle byddwn yn archwilio rôl drawsnewidiol menter dan arweiniad menywod i greu bywoliaethau cynaliadwy.
Gweld y Digwyddiad
Hyfforddiant Diogelu i swyddogion diogelu ac ymddiriedolwyr
Mae hwn yn hyfforddiant gorfodol ar gyfer swyddogion diogelu sefydliadau sy'n gweithio mewn partneriaeth yng Nghymru ac Affrica, sy’n cynnwys swyddogion diogelu partneriaid yn Affrica.
Gweld y Digwyddiad
Diogelu Hanfodol
Bydd yr hyfforddiant hwn yn tywys cyfranogwyr drwy'r arferion a'r gofynion diogelu hanfodol ar gyfer sefydliadau sy'n gweithio mewn undod byd-eang â phartneriaid yn Affrica.
Gweld y Digwyddiad
Cynllun Grant Cymru ac Affrica Sesiwn Gwybodaeth
Sesiwn gwybodaeth ar gyfer y rhain sydd â diddordeb wneud cais ar gyfer Cynllun Grant Cymru ac Affrica.
Gweld y Digwyddiad
VSLAs: Llwybr at Rymuso Economaidd a Chynaliadwyedd
Mae Cymdeithasau Cynilo a Benthyciadau mewn Pentrefi (VSLA) yn un o'r modelau llawr gwlad mwyaf effeithiol mewn perthynas â chynhwysiant ariannol a lleihau tlodi mewn cymunedau a ymyleiddiwyd. Ymunwch â'r sesiwn dysgu ysbrydoledig ac addysgol hon i glywed gan arbenigwyr yn y maes, a straeon o lwyddiant.
Gweld y Digwyddiad
Archwilio’r ymgyrch The Big Give: Mewnwelediad a dysgu o ymgyrchoedd codi arian llwyddiannus
Mae'r Digwyddiad Dysgu ar y Cyd hwn yn cynnig cyfle i aelodau o gymuned Cymru ac Affrica i archwilio sut y gall yr ymgyrch The Big Give a'i ymgyrchoedd ariannu cyfatebol weithredu fel adnodd pwerus ar gyfer codi arian ar-lein ar gyfer elusennau yng Nghymru.
Gweld y Digwyddiad