EN

Digwyddiadau’r Gorffennol

Sut i adrodd stori Affricanaidd

Adrodd straeon Affricanaidd mewn ffordd foesegol Gwrth HiliaethHawliau Dynol GweminarDigwyddiad ar-lein Zoom

Dewch i gael arweiniad ymarferol ar sut i symud i ffwrdd o adrodd straeon a chyfleu portreadau niweidiol am Affrica a phobl Affrica yn y weminar wych hon. Byddwch yn adeiladu straeon awthentig, yn cynrychioli profiadau bywyd yn gywir, ac yn diogelu urddas yn y digwyddiad hwn, sydd yn cael ei hwyluso gan Africa No Filter.

Gweld y Digwyddiad

Materion Mislif Rhan 2

Cynhyrchion penodol i gyd-destun a modelau ariannu cynaliadwy Cydraddoldeb Ehywedd a Grymuso Menywod Cymuned Ymarfer RhyweddDigwyddiad ar-lein Zoom

Mae iechyd mislif a chyfiawnder yn parhau i fod yn heriau byd-eang cymhleth sy'n cysylltu ymarferwyr a chymunedau ar draws Cymru ac Affrica. O ganlyniad i'r diddordeb cryf yn ein sesiwn Cymuned Ymarfer Rhywedd blaenorol ar dlodi mislif, mae'r digwyddiad dilynol anffurfiol hwn yn cynnig cyfle i ddod at ein gilydd unwaith eto, rhannu profiadau a dyfnhau'r drafodaeth.

Gweld y Digwyddiad
An icon of the earth with a hearbeat line across the it, surrounded by small icons of the £ sign, hearts and pluses.

Codi arian ar gyfer Iechyd mewn amseroedd heriol

Iechyd Digwyddiad Dysgu ar y CydDigwyddiad ar-lein Zoom

Mae Partneriaethau Iechyd Byd-eang Cymru, sydd yn cael ei gynnal gan Hub Cymru Africa, yn eich gwahodd i ddigwyddiad dysgu ar y cyd ar-lein, sy'n canolbwyntio ar godi arian a chyllido cynaliadwy yn y sector iechyd.

Gweld y Digwyddiad
DFID / Rich Taylor

Argyfwng mewn Cymorth Iechyd Byd-eang, gyda Dr Peter Baker

Darlith Flynyddol Partneriaethau Iechyd Byd-eang Cymru Iechyd DarlithDigwyddiad ar-lein Zoom

Bydd thema eleni, "Argyfwng mewn Cymorth Iechyd Byd-eang", yn archwilio'r heriau cynyddol sy'n wynebu cyllido iechyd byd-eang a'r goblygiadau i gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.

Gweld y Digwyddiad
Action Learning Set symbol

Cyflwyniad i Setiau Dysgu Gweithredol

Myfyriwch a symudwch ymlaen trwy’r heriau gyda'ch cyfoedion GweminarDigwyddiad ar-lein Zoom

Mae Setiau Dysgu Gweithredol (SDGau) yn ffordd syml a phwerus i ymarferwyr ym maes undod byd-eang i weithio gyda’i gilydd ar yr heriau sy'n eu hwynebu yn eu gwaith. Rydym yn cynnal sesiwn wybodaeth i gyflwyno'r fframwaith SDG ac i ateb eich cwestiynau.

Gweld y Digwyddiad
Voices of Pride: Community building and activism in Africa

Lleisiau Balchder

Adeiladu cymuned ac actifiaeth yn Affrica Amrywiaeth a Chynhwysiant Trafodaeth PanelDigwyddiad ar-lein Zoom

Panel o leisiau arbenigwyr o'r gymuned LHDTC+, sydd yn dod at ei gilydd i rannu eu taith bersonol o adeiladu cymuned a gweithredu dros hawliau LHDTC+ yn Affrica, gan gynnwys sesiwn Holi ac Ateb gyda chynulleidfa. Digwyddiad trwy gyfrwng y Saesneg.

Gweld y Digwyddiad

Adeiladu cymdeithasau cynhwysol o ran anabledd er mwyn hyrwyddo cynnydd cymdeithasol

Amrywiaeth a ChynhwysiantHawliau Dynol Digwyddiad Dysgu ar y CydDigwyddiad ar-lein Zoom

Digwyddiad ar-lein gan Share Our Story (#SOS) i arddangos cyflawniadau ac uchelgeisiau pobl ag anableddau yng Nghymru ac Affrica. Yn adrodd straeon ac yn sôn am brofiadau o'r flwyddyn 2025 gyfan.

Gweld y Digwyddiad
Safeguarding Surgery by Hub Cymru Africa

Diogelu Gloywi

GweminarDigwyddiad ar-lein Zoom

Ar gyfer unrhyw un sydd wedi cwblhau hyfforddiant yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ac sydd eisiau gloywi eu hymarfer trwy drafod astudiaethau achos.

Gweld y Digwyddiad

Cynulliad y Senedd dros gyfiawnder hinsawdd

Newid Hinsawdd a'r AmgylcheddPolisi ac Ymgyrchoedd Digwyddiad mewn person Y Senedd, Heol Pierhead, Caerdydd CF99 1SN

Yn ystod COP30, mae Cyfiawnder Hinsawdd Fyd-eang Cymru yn ymgynnull ar y grisiau o flaen y Senedd am foment weladwy o undod, yn galw ar Aelodau'r Senedd i gefnogi cyfiawnder hinsawdd fyd-eang.

Gweld y Digwyddiad
Anti-Racism Charter

Siarter Gwrth-hiliaeth: Cyflwyniad a digwyddiad diweddaru

Gwrth Hiliaeth GweminarDigwyddiad ar-lein Zoom

Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i bartneriaethau gyfarwyddo eu hunain gyda deuddeg pwynt y Siarter, adolygu eu cynnydd, a chlywed am gynnydd a heriau pobl eraill.

Gweld y Digwyddiad

Sgyrsiau Cyfiawnder Hinsawdd gan Cyfiawnder Hinsawdd Byd-eang Cymru

Newid Hinsawdd a'r AmgylcheddPolisi ac Ymgyrchoedd Digwyddiad mewn person Theatr y Grand, Stryd Singleton, Abertawe, SA1 3QJ

Ymunwch â Chyfiawnder Hinsawdd Byd-eang Cymru ar gyfer sgyrsiau pwerus fel rhan o Ddydd Gweithredu Byd-eang, gan ddod â lleisiau menywod, pobl ifanc, pobl o leiafrifoedd hil, pobl anabl, a chymunedau ar y rheng flaen ynghyd.

Gweld y Digwyddiad

Y mislif: Deall tlodi mislif a llwybrau i newid

Amrywiaeth a ChynhwysiantCydraddoldeb Ehywedd a Grymuso MenywodIechydHawliau Dynol Cymuned Ymarfer RhyweddDigwyddiad ar-lein Zoom

Mae tlodi mislif yn broblem fyd-eang. Mae'n bwnc sy'n cyd-daro'n ddwfn ag iechyd, addysg, cydraddoldeb rhywedd, a hawliau dynol. Ymunwch â ni yn ein Cymuned Ymarfer Rhywedd nesaf, wrth i ni glywed gan ymgyrchwyr ac ymarferwyr am dorri tabŵs, atebion cynaliadwy, a chreu lle ar gyfer dysgu.

Gweld y Digwyddiad

Don't Miss Out on Future Events!

Thank you for your interest in our past events! We hope you enjoyed the experience and found it valuable. Stay connected and be the first to know about our upcoming events.

Digwyddiadau i ddod