Lansio’r Gymuned Ymarfer Urddas Mislif
Yn dilyn dau sesiwn dysgu a rhwydweithio llwyddiannus ar urddas mislif, cyfiawnder mislif ac iechyd mislif, mae'n bleser gan Hub Cymru Africa gefnogi lansiad Cymuned Ymarfer bwrpasol ar gyfer partneriaethau rhwng Cymru ac Affrica sydd yn gweithio yn y maes hwn.
Gweld y Digwyddiad
Sefydlu elusen yng Nghymru
Adeiladu sefydliad cynaliadwy gydag effaith gymdeithasol gryfMae'r sesiwn ymarferol a rhyngweithiol hwn wedi'i gynllunio i unrhyw un sydd yn ystyried sefydlu elusen, CIC (Cwmni Buddiant Cymunedol) neu fenter effaith gymdeithasol ym maes undod byd-eang.
Gweld y Digwyddiad
Y Gwersi gan Bartneriaethau Iechyd Byd -Eang
Cyd-fuddsoddi ac effaithBydd y digwyddiad hwn yn dod â phartneriaethau iechyd ar draws Cymru a'n partneriaid rhyngwladol at ei gilydd i rannu dysgu, cryfhau cysylltiadau, ac i dynnu sylw at effaith gyfunol ein gwaith iechyd byd-eang.
Gweld y Digwyddiad
Sioe Deithiol Undod Byd-eang | Caerfyrddin
Digwyddiad rhwydweithio a dysgu ar y cyd Cymuned Cymru ac AffricaYmunwch â ni yng Nghaerfyrddin i gysylltu â’ch cydweithwyr, rhannnu brofiadau a’r pethau rydych chi’n eu dysgu o’ch prosiectau, a chyfrannu eich syniadau at ddyfodol Hub Cymru Africa a Rhaglen Cymru Affrica Llywodraeth Cymru yn 2027 ac yn y dyfodol.
Gweld y Digwyddiad
Bil Sofraniaeth Uganda
Goblygiadau ac ystyriaethau ar gyfer Cyrff Anllywodraethol Rhyngwladol sydd wedi’u lleoli yn y DUBydd y drafodaeth banel hon yn dod â Chyrff Anllywodraethol Rhyngwladol sydd wedi’u lleoli yn y DU ac sy'n gweithio yn Uganda at ei gilydd, er mwyn deall goblygiadau’r ddeddfwriaeth ddiweddar hon yn well, ac i ystyried eu rôl wrth symud ymlaen.
Gweld y Digwyddiad
Sioe Deithiol Undod Byd-eang | Llandudno
Digwyddiad rhwydweithio a dysgu ar y cyd Cymuned Cymru ac AffricaYmunwch â ni yn Llandudno i gysylltu â’ch cydweithwyr, rhannu brofiadau a’r pethau rydych chi’n eu dysgu o’ch prosiectau, a chyfrannu eich syniadau at ddyfodol Hub Cymru Africa a Rhaglen Cymru Affrica Llywodraeth Cymru yn 2027 ac yn y dyfodol.
Gweld y Digwyddiad
Sioe Deithiol Undod Byd-eang | Caerdydd
Digwyddiad rhwydweithio a dysgu ar y cyd Cymuned Cymru ac AffricaYmunwch â ni yng Nghaerdydd i gysylltu â’ch cydweithwyr, rhannu profiadau a’r pethau rydych chi’n eu dysgu o’ch prosiectau, a chyfrannu eich syniadau at ddyfodol Hub Cymru Africa a Rhaglen Cymru Affrica Llywodraeth Cymru yn 2027 ac yn y dyfodol.
Gweld y Digwyddiad
Hyfforddiant Diogelu i swyddogion diogelu ac ymddiriedolwyr
Mae hwn yn hyfforddiant gorfodol ar gyfer swyddogion diogelu sefydliadau sy'n gweithio mewn partneriaeth yng Nghymru ac Affrica, sy’n cynnwys swyddogion diogelu partneriaid yn Affrica.
Gweld y Digwyddiad
Aros yn ddiogel ac yn hyderus yn ystod cyfnod etholiad y Senedd
Beth sydd angen i elusennau undod byd-eang bychain, partneriaethau iechyd, ac ymgyrchwyr Masnach Deg ei wybodDewch i ymuno â Hub Cymru Africa i gymryd rhan mewn gweminar ymarferol, cyfeillgar, awr o hyd gyda Chomisiwn Etholiadol Cymru. Byddwn yn egluro'r prif reolau sy'n berthnasol i elusennau yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad, gydag esboniadau syml ac enghreifftiau o'r byd go iawn sy'n berthnasol i sefydliadau bychain, dan arweiniad gwirfoddolwyr, sy'n gweithio ar brosiectau undod byd-eang.
Gweld y Digwyddiad
Eiriol dros eich elusen
Rhannu 10 blaenoriaeth y sector Cymru ac Affrica ar gyfer Llywodraeth nesaf CymruDewch i ymuno â ni i gymryd rhan mewn trafodaeth glir ac ysbrydoledig am sut y gall eich llais, fel ymddiriedolwyr, sylfaenwyr a gwirfoddolwyr, helpu i greu Cymru sy'n fwy cyfrifol ar lefel fyd-eang. Gyda'n gilydd, gallwn sicrhau bod Llywodraeth nesaf Cymru yn cefnogi eich partneriaethau i barhau i ffynnu am flynyddoedd i ddod.
Gweld y Digwyddiad
Diogelu Hanfodol
Bydd yr hyfforddiant hwn yn tywys cyfranogwyr drwy'r arferion a'r gofynion diogelu hanfodol ar gyfer sefydliadau sy'n gweithio mewn undod byd-eang â phartneriaid yn Affrica.
Gweld y Digwyddiad
Cymru, Affrica a Menywod
Dathliad Diwrnod Rhyngwladol y MenywodRydym yn falch i gyhoeddi noson o ddathlu ac yn cydnabod menywod fel rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod gyda pherfformiadau, stondinau, bwyd Affricanaidd, diodydd, rhwydweithio a mwy. Byddwn hefyd yn cofio cyn-Brif Swyddog Hub Cymru Africa, Claire O’Shea, arweinydd cymdeithas sifil brwd ac ymgyrchydd dros gyfiawnder i fenywod.
Gweld y Digwyddiad