EN
< Newyddion

Lleisiau Balchder: Adeiladu Cymuned a Gweithredu yn Affrica

Amrywiaeth a ChynhwysiantCydraddoldeb Ehywedd a Grymuso Menywod
A diverse group of people holds a vibrant "Equal Namibia" banner at a pride event, displaying joy and unity. The banner reads, "Equal Namibia: There is no freedom, if there is no equality."
Equal Namibia

Mae pobl LGBTQ+ ar draws Affrica yn wynebu amodau llymach, oherwydd effaith cyfreithiau’r oes drefedigaethol sy’n dal mewn grym, a’u bod yn colli’r hawliau yr oeddent wedi’u hennill. Mae deddfau llym ac iaith homoffobaidd, sydd yn cael eu tanio yn rhannol gan yr adain dde eithafol yn y Gorllewin, yn gwneud bywyd yn fwy anodd i gymunedau LGBTQ+ ar draws y cyfandir.

Ym mis Ionawr, i nodi’r Mis Hanes LGBTQ+, cynhaliodd Hub Cymru Africa banel o ymgyrchwyr LGBTQ+ o Affrica i dynnu sylw at y materion hyn, i gryfhau eu lleisiau a’u llwyddiannau, ac i archwilio beth allai pobl yng Nghymru ei wneud i sefyll mewn undod â nhw.

Roedd y panel yn cynnwys pedwar ymgyrchydd a threfnydd cymunedol o Namibia, Kenya a Nigeria.

Friedel Dausab

Mae Friedel yn un o ymgyrchwyr LGBTQ+ mwyaf arwyddocaol Namibia. Yn 2024, cafodd lwyddiant mewn herio cyfraith yr oes drefedigaethol oedd yn troseddoli perthnasoedd o’r un rhyw, gan ddadlau ei bod yn anghyfansoddiadol ac yn wahaniaethol. Mae hefyd yn ffigwr amlwg ar Gomisiwn Hawliau LGBTQ+ Byd eang y Kaleidoscope Trust, ac wedi cynhyrchu rhaglen ddogfen ar frwydr pobl LGBTQ+ yn Namibia.

Dywedodd Friedel bod cyfansoddiad Namibia wedi symud ymlaen ers annibyniaeth dros 30 mlynedd yn ôl, a bod y gwerthoedd newydd o beidio â gwahaniaethu wedi helpu i gryfhau ymdrechion ymgyrchwyr. Ond roedd yn glir bod cydraddoldeb go iawn ymhell o gael ei wireddu. Mae agweddau gwahaniaethol yn parhau i fod wedi’u gwreiddio’n ddwfn mewn pethau fel priodas, y teulu a’r gweithle.

Tynnodd sylw hefyd at adfywiad rhethreg yn erbyn pobl cwiar gan arweinwyr yr adain dde eithafol yn y Gorllewin ac mewn cymunedau efengylaidd yn Namibia. Mae gwleidyddion ceidwadol wedi defnyddio iaith homoffobaidd yn agored yn y senedd, gan bortreadu pobl cwiar mewn ffyrdd sydd wedi cyfrannu at hinsawdd o drais. Mae hyn wedi arwain at sawl llofruddiaeth diweddar yn Namibia, gyda dim un ohonynt wedi cael eu portreadu fel troseddau casineb. Mynegodd Friedel rwystredigaeth ynghylch distawrwydd llywydd newydd Namibia, Netumbo Nandi‑Ndaitwah ar hawliau’r gymuned LQBTQ+, ac ar y frwydr barhaus dros gyllid a mynediad at ofal iechyd, yn enwedig i bobl sy’n byw gyda HIV.

Er gwaethaf hyn oll, mae Friedel yn obeithiol. Mae’n credu bod y frwydr dros ryddid pobl LGBTQ+ yn cael ei gysylltu’n agos gyda’r brwydrau ehangach yn erbyn tlodi, rhyfel a gormes, ac mae’n credu y gall Cymru fod yn bartner cefnogol yn y frwydr ehangach dros gyfiawnder a chydraddoldeb.

Omar van Reenan

Mae Omar yn gyd-sylfaenydd Equal Namibia, y mudiad hawliau sifil mwyaf yn y wlad. Roedd ei gefnogaeth yn ganolog i benderfyniad y Goruchaf Lys yn 2023 ar briodasau o’r un rhyw dramor, a helpodd hefyd i gefnogi her gyfreithiol 2024 yn erbyn cyfreithiau sodomiaeth. Cafodd ei enwi’n un o Bobl Mwyaf Ysbrydoledig y Guardian yn 2023, ac enillodd Wobr Ddemocratiaeth NextGen Kofi Annan yn 2004.

Ganwyd Omar i’r genhedlaeth ‘born‑free’ yn Namibia ar ôl‑annibyniaeth ac apartheid, ond mae’n glir nad yw’r addewid o ryddid wedi ymestyn i bobl LGBTQ+ Namibia. Tra bod gwleidyddion ac eithafwyr crefyddol yn dadlau ynghylch materion diwylliannol, mae materion cysylltiedig fel tlodi, trais ar sail rhywedd a thai anaddas yn parhau heb eu datrys. Pwrpas gwaith Omar ydy atgoffa arweinwyr Namibia na wnaeth y frwydr dros hawliau cyfartal ddod i ben ym 1990.

Mae Omar yn annog bod yn rhaid i ni, fel cynghreiriaid, gryfhau lleisiau pobl LGBTQ+ yn hytrach na siarad drostynt. Mae hyn yn golygu cefnogi sefydliadau dan arweiniad pobl cwiar yn uniongyrchol, yn hytrach na mynd trwy bobl eraill sy’n newid eu neges. Ac mae’n golygu pwyso ar lywodraethau’r Gorllewin, gan gynnwys ein rhai ni, i fod yn gyson mewn amddiffyn hawliau dynol trwy eu polisi tramor a chymorth rhyngwladol.

Alpha

Mae Alpha yn economegydd, yn ffeminydd ac yn sylfaenydd Nadharia Kenya, sefydliad cymunedol sy’n cefnogi pobl cwiar trwy rymuso economaidd a gwaith creadigol. Mae eu gwaith yn cynnwys coleg galwedigaethol i bobl cwiar, lloches gymunedol, a BELOWCLOUD97, brand ffasiwn sy’n niwtral o ran rhywedd.

Disgrifiodd Alpha yr ystod o wahaniaethu sy’n wynebu pobl LGBTQ+ yn Kenya heddiw: rhoi gormod o ffocws ar ryw, diffyg gweithleoedd cynhwysol o ran rhywedd, aflonyddu ar drafnidiaeth gyhoeddus a seibrfwlio. Mae pobl LHDTC+ yn aml yn cael eu gwneud yn fychod dihangol, mae eu doniau’n cael eu hanwybyddu, ac mae eu hiechyd meddwl yn cael ei wthio i bwynt argyfwng gan gyflyrau nad ydy llawer o bobl yn gallu fforddio cael eu trin.

Ond siaradodd Alpha hefyd am yr egni a’r creadigrwydd mewn cefnogi pobl LGBTQ+ yn Kenya, sy’n amlwg mewn ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol, dillad niwtral o ran rhywedd, y celfyddydau, twrnameintiau chwaraeon a hyd yn oed amaethyddiaeth. Mae cynnydd hefyd yn y maes cyfreithiol, fel y dangosir yn adroddiad blynyddol diweddaraf Comisiwn Cenedlaethol Kenya ar Hawliau Dynol. Yr her ydy stopio siarad am hyn mewn ystafelloedd bwrdd, a gwneud rhywbeth amdano go iawn ar lawr gwlad.

Kim Eve Merari

Mae Kim yn fenyw draws o Nigeria, yn sylfaenydd Arewahotsauce Kitchen, yn fodel, yn creu cynnwys ac yn ymgyrchydd sy’n pwyso i bobl traws gael eu gweld a’u derbyn.

Siaradodd yn onest am y realiti sy’n wynebu pobl traws yn Nigeria: lleisiau heb eu clywed, dim llawer o ddiogelwch ariannol, a diffyg tai diogel. Mae Kim ei hun wedi gorfod adleoli oherwydd pryderon diogelwch. Serch hynny, mae hi’n benderfynol ac yn obeithiol, ac yn tynnu sylw at gymuned sy’n tyfu ac sy’n brwydro nôl trwy ddigwyddiadau fel sioeau drag a chyfryngau newydd dan arweiniad pobl cwiar, e.e. African Queer Archive.

Adnoddau

Tynnwyd sylw at y ffilm Sankofa Movement yn ystod y drafodaeth, hefyd fel adnodd defnyddiol ar gyfer deall hunaniaeth a hanes pobl cwiar Affrica.

Cymryd Rhan

Os hoffech gefnogi’r sefydliadau a’r ymgyrchwyr a gafodd eu cynnwys yn y drafodaeth hon, gweler isod:

Trafodaeth Banel Lleisiau Balchder

Dal lan ar ein trafodaeth banel o Fis Ionawr 2026 yma.

Erthyglau Eraill

Gweld pob un
A child, standing on top of a hill, holding a Welsh flag looking over the coastline.
Blog

Cenedl Noddfa: Undod, lloches a Chroeso Cymreig

Gwrth HiliaethAmrywiaeth a ChynhwysiantHawliau DynolPolisi ac Ymgyrchoedd Gweld yr erthygl
Sticky note from a WCIA event with a child's writing on it saying: "After today I'm feeling heard and seen".
Blog, Newyddion

Beth ydy dinasyddiaeth fyd-eang?

Gweld yr erthygl
Blog, Newyddion

O Khartoum i Gaerdydd: Israa Mohammed a Rhyfel Cartref Swdan

Hawliau DynolPolisi ac Ymgyrchoedd Gweld yr erthygl
Martha Musonza Holman speaking to Wales, Africa and the World at HayMan Media studio in Newport.
Newyddion, Datganiadau i'r Wasg

Gobaith, Masnach Deg a Chariad: Taith Martha o Zimbabwe i Gymru

Gwrth HiliaethNewid Hinsawdd a'r AmgylcheddMasnach DegHawliau DynolBywoliaethau Cynaliadwy Gweld yr erthygl