EN
< Newyddion

Sector undod byd-eang Cymru yn galw ar y Senedd i gefnogi lle Cymru yn y byd

Polisi ac Ymgyrchoedd
Treeflgihts / Climate Shop

Mae gan y Senedd gyfle i gadarnhau lle Cymru yn y byd wrth i gynnig gael ei gyflwyno iddi ar ddydd Mercher 17 Mehefin. Mae’r cynnig, sy’n galw am roi terfyn ar holl wariant rhyngwladol Llywodraeth Cymru, yn peryglu enw da Cymru. 

Mae gan Gymru hanes balch o ryngwladoliaeth ac o chwarae rhan weithredol ar lwyfan y byd. Wrth i arweinwyr ar draws y byd ddechrau troi eu cefn ar undod, mae Hub Cymru Africa yn galw ar y Senedd i gefnogi lle Cymru yn y byd, a pharhau â’n hymdrechion i ddod yn genedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang.

Mae hanes balch Cymru o undod wedi ymddangos mewn sawl ffurf dros y blynyddoedd. Drwy gydweithredu lleol chwyldroadol y capeli, streicio am well amodau yn y pyllau glo, barddoniaeth heddychlon arloesol Hedd Wyn yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, Gweithwyr Milisia Gwrthffasgaidd yn Rhyfel Cartref Sbaen, rhoi lloches i faciwîs a ffoaduriaid yn yr Ail Ryfel Byd, Ffenestr Cymru dros Alabama, perthynas gefeillio Cymru a Lesotho ym 1985 ac, yn fwy diweddar, croesawu ffoaduriaid o Syria a’r Wcráin.

Mae cyllideb undod rhyngwladol Llywodraeth Cymru yn cynrychioli 0.004% o’r cyfanswm sydd gennym i’w wario yng Nghymru, (tua 33c fesul person y flwyddyn) a gyda’r arian hwnnw, mae Cymru yn creu effaith fawr.

Wrth fynegi ei farn cyn y cynnig, dywedodd pennaeth Hub Cymru Africa a Chyd-gadeirydd Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru, Julian Rosser:

“Mae gan y Senedd gyfle i gadarnhau ein lle yn y byd, a chydnabod y gwaith gwerthfawr sydd yn cael ei wneud gan filoedd o wirfoddolwyr ar draws y wlad i wneud Cymru a gweddill y byd yn llefydd gwell i fyw ynddynt.”

“Am 33c fesul person, mae Rhaglen Cymru ac Affrica yn cynnig gwelliannau ym maes iechyd cyhoeddus, gweithredu ar yr hinsawdd, grymuso menywod a datblygu cynaliadwy yma yng Nghymru ac mewn cymunedau ar draws Affrica.”

Cymru gyfan

Mae fferyllwyr o bob cwr o’r wlad wedi dod at ei gilydd i ffurfio Prosiect Fferylliaeth Gwrthficrobaidd rhwng Malawi-Cymru, sydd wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda fferyllwyr ym Malawi ers 2021, i fynd i’r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd – problem sy’n croesi ffiniau cenedlaethol a demograffeg.

Mae dros 600 o weithwyr iechyd proffesiynol mewn naw ysbyty ym Malawi wedi’u hyfforddi mewn stiwardiaeth gwrthficrobaidd. Yma yng Nghymru, mae’r sector wedi dysgu sut i ddarparu stiwardiaeth effeithiol gydag adnoddau cyfyngedig. Ymhlith cyflawniadau eraill, cafodd y prosiect hwn ei roi ar restr fer gwobr UK Antibiotic Guardian Award yn 2025.

Mae eiriolwyr anabledd ar draws Cymru wedi bod yn hyrwyddo hawliau pobl anabl ar draws y byd. Yn 2021, sefydlodd ymgyrchwyr grŵp WhatsApp ar gyfer pobl fyddar ac anabl i rannu eu profiadau a’u harbenigedd mewn hyrwyddo hawliau pobl anabl yn fyd-eang. Hyd yn hyn, mae eiriolwyr o 11 o wledydd Affrica yn ymuno â’u partneriaid yng Nghymru yn y grŵp hwn, ac mae wedi dod yn blatfform effeithiol i ddylanwadu ar bolisi. Arweiniodd her lwyddiannus i adfer gwasanaeth Dial-a-Ride Cape Town at gyfranogwyr o Gymru yn craffu ar wasanaethau tebyg yng Nghymru. Mae #SOS yn dangos bod llais Cymru ym maes hawliau anabledd byd-eang yn costio ychydig iawn, ond yn cyrraedd yn eithriadol o bell.

Mae buddsoddi mewn datblygu rhyngwladol, yn enwedig ym maes iechyd a bywoliaethau, yn helpu i adeiladu cymdeithasau mwy sefydlog, drwy fynd i’r afael â’r ffactorau sylfaenol sy’n arwain at ddadleoli, gan alluogi pobl i fyw’n ddiogel, cefnogi eu teuluoedd, a siapio eu dyfodol yn y gwledydd maen nhw’n galw’n gartref, yn hytrach na gorfod gadael i chwilio am ffyrdd o oroesi neu am ddiogelwch.

Gorllwein Cymru

Yng Ngorllewin Cymru, mae Treeflights yn helpu cymunedau i weithredu mewn perthynas â’n hôl troed carbon drwy weithio mewn partneriaeth gyda chymuned Boré yn Kenya i blannu coed, sy’n tyfu’n gyflymach ac yn amsugno mwy o garbon yn y rhan hon o’r byd. Mae cadwyn o “Siopau Hinsawdd” Treeflights yn ailgylchu ac yn ailddefnyddio eitemau cartref i godi dros £1,000 y dydd i helpu i ariannu’r gwith o blannu 1.5 miliwn o goed bob blwyddyn. Hyd yn hyn, mae bron i 8 miliwn o goed wedi cael eu plannu, gan dynnu tunellau o garbon o’r atmosffer, a dargyfeirio miliwn o eitemau cartref a fyddai fel arall, yn diweddu fyny mewn  safleoedd tirlenwi  ar draws Cymru.

Y Cymoedd

Yn Rhondda Cynon Taf (RCT), mae PONT wedi bod yn cysylltu cymunedau yn y Cymoedd gyda Mbale yn nwyrain Uganda ers dros 20 mlynedd. Mae’r prosiectau hyn wedi darparu rhaglenni iechyd, addysg a bywoliaeth. Mae un rhaglen wedi hyfforddi gweithwyr iechyd cymunedol i redeg rhwydwaith ambiwlans, gan helpu pobl mewn ardaloedd gwledig i gael gofal meddygol, gyda dulliau cost isel ac arloesol o ddarparu gwasanaethau ambiwlans y gellir eu trosglwyddo nôl i Gymru. Mae’r rhaglen hon yn cyrraedd tua 600,000 o bobl ac yn achub mwy na 400 o fywydau bob blwyddyn.

Yn RCT, mae mwy na 100 o ysgolion wedi partneru gydag ysgolion yn Uganda ar brosiectau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, y Celfyddydau a Mathemateg (STEAM), a ddatblygwyd gyda Phrifysgol De Cymru. Mae hyn yn cyfoethogi’r cwricwlwm gyda dos da o ddysgu ymarferol byd-eang.

Mae GBV Uganda ym Mlaenau Gwent yn gweithio gyda phartneriaid lleol yn Rhanbarth Mbale i gefnogi menywod a merched ifanc gyda sgiliau galwedigaethol ac i ennill annibyniaeth. Mae dros 950 o fenywod a merched ifanc wedi derbyn hyfforddiant mewn teilwra dillad, trin gwallt ac amaethyddiaeth gynaliadwy. Drwy sefydlu dros 25 o brosiectau cynhyrchu incwm cymunedol, gall y gymuned leol fuddsoddi mewn lloches i fenywod ac mewn gofod diogel yn yr orsaf heddlu leol. Nôl yng Nghymru, mae gwirfoddolwyr sydd yn gweithio ar y prosiect yn ennill sgiliau datblygiad proffesiynol sylweddol mewn diogelu a llywodraethu, yn ogystal â gwneud ffrindiau am oes.

Caerdydd a’r Fro Morgannwg

Mae Days for Girls UK, sydd wedi’i leoli yn y Barri, wedi partneru gydag ANAH Angola i ddarparu addysg ac adnoddau iechyd mislif yn nhaleithiau Moxico a Lunda Sul yn Angola. Mae stigma a thlodi mislif yn broblemau yng Nghymru ac yn Angola hefyd. Trwy’r partneriaethau arloesol hyn rhwng Cymru ac Angola, mae dros 1,500 o gitiau mislif y gellir eu golchi a’u hailddefnyddio wedi cael eu dosbarthu i fenywod a merched yn Moxico a Lunda Sul. Mae mynd i’r afael â thlodi mislif fel hyn yn gwella presenoldeb yn yr ysgol, bywoliaethau ac yn lleihau stigma yn uniongyrchol. Yng Nghymru, mae’r prosiect paralel — Mislif Hapus — wedi dosbarthu dros 1,200 o gitiau mislif i ferched mewn cymunedau “anodd eu cyrraedd” ar draws Cymru.

Nodiadau i’r golygydd

Mae Hub Cymru Africa yn bartneriaeth sy’n cynnwys Cymru Global (WCIA gynt), Cymru Masnach Deg, Panel Cynghori Is-Sahara a Phartneriaethau Iechyd Byd-eang Cymru.

Hub Cymru Africa yw prif sefydliad Cymru ar gyfer datblygu rhyngwladol ac undod byd-eang. Fe’i sefydlwyd ym mis Ebrill 2015 i ddod â gwaith ei bartneriaid at ei gilydd ac i gefnogi sefydliadau ar draws Cymru i adeiladu cysylltiadau a phrosiectau cynaliadwy mewn partneriaeth â sefydliadau yn Affrica ac ar draws y byd. Mae’n cefnogi grwpiau ac unigolion amrywiol a bywiog yng Nghymru—ymgyrchwyr masnach deg, cymunedau diaspora, staff y GIG, mudiadau cymunedol a chrefyddol, ac elusennau – i gyfrannu at ddatblygiad byd-eang cyfrifol yn gymdeithasol.

Mae gwaith Hub Cymru Africa yn canolbwyntio yn bennaf ar iechyd, addysg, cyflogaeth a’r amgylchedd. Trwy godi ymwybyddiaeth, polisïau ac eiriolaeth, mobileiddio cymunedol a mentora a chymorth datblygu, mae’n helpu’r sector gwirfoddol a’r sector cyhoeddus yng Nghymru i gyfrannu at y Nodau Datblygu Cynaliadwy trwy ddatblygu rhyngwladol.

Mae Hub Cymru Africa yn cael ei ariannu trwy grantiau gan Raglen Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru a’r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu. 

I gael cyfweliadau yn Gymraeg neu Saesneg, cysylltwch â:

Peter Frederick Gilbey

petergilbey@hubcymruarica.wales

Erthyglau Eraill

Gweld pob un
A diverse group of people holds a vibrant "Equal Namibia" banner at a pride event, displaying joy and unity. The banner reads, "Equal Namibia: There is no freedom, if there is no equality."
Blog

Lleisiau Balchder: Adeiladu Cymuned a Gweithredu yn Affrica

Amrywiaeth a ChynhwysiantCydraddoldeb Ehywedd a Grymuso Menywod Gweld yr erthygl
A child, standing on top of a hill, holding a Welsh flag looking over the coastline.
Blog

Cenedl Noddfa: Undod, lloches a Chroeso Cymreig

Gwrth HiliaethAmrywiaeth a ChynhwysiantHawliau DynolPolisi ac Ymgyrchoedd Gweld yr erthygl
Sticky note from a WCIA event with a child's writing on it saying: "After today I'm feeling heard and seen".
Blog, Newyddion

Beth ydy dinasyddiaeth fyd-eang?

Gweld yr erthygl
Blog, Newyddion

O Khartoum i Gaerdydd: Israa Mohammed a Rhyfel Cartref Swdan

Hawliau DynolPolisi ac Ymgyrchoedd Gweld yr erthygl