Bydd siaradwyr rhyngwladol, arweinwyr brodorol ac ymgyrchwyr yn dod at ei gilydd yng Nghaerdydd ar 2 Tachwedd i archwilio sut mae Cymru yn helpu i greu byd tecach a mwy diogel.
Bydd digwyddiad undod byd-eang mwyaf blaenllaw Cymru, Ffair Undod Byd-eang 2026, yn dod â phobl sydd yn gweithio ym meysydd gweithredu ar yr hinsawdd, cyfiawnder cymdeithasol a datblygu rhyngwladol at ei gilydd, i gymryd rhan mewn diwrnod o drafod, dysgu a chydweithio.
Bydd y Ffair yn cael ei chynnal yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd rhwng 10:30yb a 5:00yp, a bydd yn cynnwys arddangosfa o dros 30 o sefydliadau o bob rhan o Gymru, ynghyd â seminarau, gweithdai a thrafodaethau panel amrywiol.
Bydd Mpho Tutu van Furth, offeiriad, awdures, ymgyrchydd a merch y diweddar Archesgob Desmond Tutu, ymhlith y prif siaradwyr. Bydd yn trafod yr athroniaeth Affricanaidd Ubuntu, sy’n hyrwyddo’r syniad o’r pethau sy’n ein huno fel bodau dynol.
Bydd y digwyddiad yn croesawu Ju Kerexu a Vilma Verá Rios hefyd, arweinwyr brodorol y Guaraní o Frasil, a fydd yn rhannu eu profiadau o amddiffyn eu tir rhag datgoedwigo ac o ddiogelu ysgyfaint y ddaear. Bydd Sioned Williams AS, Dirprwy Brif Weinidog Cymru a Gweinidog y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, hefyd yn siarad am rôl Cymru ar lwyfan y byd, ac yn cwrdd ag arddangoswyr yn y Ffair.
Gydag 20 o sesiynau yn amrywio o weithdai cyflwyniadol i seminarau manwl a thrafodaethau panel ysgogol, bydd y rhai sy’n mynychu yn cael y cyfle i ddysgu am bynciau amrywiol fel Masnach Deg, gweithredu ar yr hinsawdd, iechyd byd-eang, datblygu cynhwysol i bobl anabl a’r Genedl Noddfa, ac am faterion cyfoes ym maes cyfiawnder cymdeithasol hefyd fel Palesteina, yr argyfwng cartrefi plant a gwleidyddiaeth ryngwladol.
Bydd y digwyddiad yn wahanol i’r fformat cynhadledd traddodiadol, ac yn creu amgylchedd bywiog lle gall pobl rwydweithio, rhannu syniadau a chryfhau cefnogaeth i ddatblygu rhyngwladol ac undod byd-eang.
Bydd y Ffair Undod Byd-eang yn cael ei chynnal ar ddydd Llun 2 Tachwedd 2026 rhwng 10:30yb a 5:00yp, yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd.
I gael rhagor o wybodaeth ac i weld y rhaglen lawn, ewch i wefan Hub Cymru Africa.
Mae Hub Cymru Africa yn bartneriaeth sy’n cefnogi Cymuned Cymru ac Affrica a’r gymuned Masnach Deg, ac yn dod â gwaith Cysylltiadau Iechyd Byd-eang Cymru, Panel Cynghori Is-Sahara, Cymru Global a Cymru Masnach Deg at ei gilydd.
Rydym yn cynrychioli’r sector undod byd-eang yng Nghymru, ac yn cefnogi’r sector i hyrwyddo Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig drwy brosiectau partneriaeth rhwng Cymru ac Affrica.
Mae Hub Cymru Africa yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru a Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu y DU (FCDO).
Peter Frederick Gilbey
communications@hubcymruafrica.wales