Mae Hub Cymru Africa yn cymryd ei gyfrifoldeb dros ddiogelu gwybodaeth bersonol a gwybodaeth fusnes sensitif o ddifrif.
Ar 3 Awst 2026, cawsom wybod bod Beacon CRM, sy’n prosesu gwybodaeth am y bobl rydym yn ymgysylltu â nhw ar ein rhan, wedi profi digwyddiad seiberddiogelwch. Y ddealltwriaeth sydd gan Beacon CRM ar hyn o bryd yw bod manylion mewngofnodi defnyddwyr wedi cael eu hacio, ac wedi cael eu defnyddio i gael mynediad heb ei awdurdodi i’w systemau.
Mae Beacon CRM wedi cadarnhau bod copïau o’i gronfeydd data wrth gefn wedi cael eu creu. Er nad yw wedi cadarnhau eto fod data wedi cael eu cymryd, mae’r dystiolaeth sydd ar gael ar hyn o bryd yn awgrymu ei bod yn debygol bod y copïau hyn wedi cael eu llwytho i lawr. Mae hyn yn golygu y gallai rhywun fod wedi cael mynediad i’ch gwybodaeth bersonol neu fusnes (enw a chyfeiriad e-bost) oedd ar ein cyfrif Beacon cyn 5am ar 27 Gorffennaf 2026. Nid ydym yn casglu nac yn storio gwybodaeth ariannol neb yn y system hon.
Oherwydd eich perthynas gyda Hub Cymru Africa, boed hynny fel rhywun sydd wedi mynychu un o’n digwyddiadau, rhywun sydd wedi tanysgrifio i’n diweddariadau e-bost, rhywun sydd wedi derbyn cymorth datblygu, neu rywun sydd wedi ymgysylltu â ni mewn ffordd arall, mae’n bosibl bod yr wybodaeth hon wedi cynnwys eich enw, cyfeiriad eich sefydliad, eich gohebiaeth â Hub Cymru Africa, unrhyw ddewisiadau cyfathrebu sydd gennych, neu wybodaeth ehangach am eich perthynas gyda ni. Rydym yn aros am ragor o newyddion gan Beacon ynghylch union natur y data sydd wedi cael ei dorri mewn cysylltiad â’r digwyddiad hwn.
Mae Beacon wedi datgan nad oes unrhyw dystiolaeth ar hyn o bryd sy’n awgrymu bod yr wybodaeth wedi cael ei chyhoeddi ar-lein neu fod unrhyw hawliad pridwerth wedi cael ei wneud. Mae ei ymchwiliad yn parhau gyda chymorth arbenigwyr seiberddiogelwch allanol. Gallwch ddarllen mwy am beth mae Beacon wedi’i ddweud am y digwyddiad yma.
Gan fod data personol wedi cael eu torri, mae gennym rwymedigaeth o dan Ddeddf Diogelu Data 2018 i roi gwybod am hyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) ac i’r unigolion yr effeithiwyd arnynt. Felly, roeddem eisiau sicrhau eich bod yn ymwybodol o’r sefyllfa hon.
Y risg fwyaf amlwg ar hyn o bryd yw y gallai rhywun ddefnyddio’r wybodaeth hon i wneud i e-bost neu neges dwyllodrus ymddangos yn fwy credadwy. Byddwch yn arbennig o ofalus ynghylch unrhyw ohebiaeth annisgwyl sy’n cyfeirio at Hub Cymru Africa neu at eich perthynas gyda ni. Peidiwch â chlicio ar ddolenni annisgwyl na darparu cyfrineiriau, codau diogelwch, gwybodaeth fancio nac ar unrhyw fanylion personol eraill. Ni fydd Hub Cymru Africa byth yn gofyn i chi am eich manylion bancio nac am unrhyw wybodaeth ariannol arall.
Ein blaenoriaeth oedd hysbysu’r unigolion sydd wedi cael eu heffeithio gan hyn, fel y gallant gymryd camau priodol i ddiogelu eu hunain. Rydym hefyd wedi dechrau cymryd rhagor o gamau rhagofalus, gan gynnwys diogelu mynediad Hub Cymru Africa at ein cyfrif Beacon, ailosod cyfrineiriau, a datgysylltu cymwysiadau ac integreiddiadau sy’n gysylltiedig â Beacon. Drwy wneud hyn, rydym yn dilyn canllawiau Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth a’r Comisiwn Elusennau, ac yn bodloni ein gofynion adrodd rheoleiddiol. Gallwch ddarllen ein Polisi Preifatrwydd llawn ar ein gwefan.
Hoffem ymddiheuro’n ddiamod am unrhyw bryder y gallai’r digwyddiad hwn ei achosi. Byddwn yn darparu rhagor o wybodaeth cyn gynted ag y bydd ymchwiliad Beacon, neu ein hymchwiliad ni ein hunain, yn dod o hyd i unrhyw newidiadau sylweddol i’r sefyllfa a amlinellir uchod. Rydym yn deall y gallai hyn effeithio ar eich ymddiriedaeth ynom, ac os hoffech newid eich dewisiadau cyswllt, neu os oes gennych unrhyw geisiadau, cwestiynau neu bryderon penodol, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at enquiries@hubcymruafrica.wales.
Byddwn yn cadw ein datganiad cyhoeddus wedi’i ddiweddaru wrth i ni dderbyn gwybodaeth newydd.
Os byddwch yn derbyn gohebiaeth sy’n ymddangos yn amheus, cysylltwch â ni’n uniongyrchol drwy anfon e-bost i enquiries@hubcymruafrica.wales. Peidiwch â defnyddio’r manylion cyswllt na’r dolenni sydd wedi’u cynnwys yn y neges amheus ei hun.