EN
< Newyddion

Mae methu â brechu’r byd wedi “creu’r fagwrfa berffaith i Omicron”

Iechyd
covid-19 omicron

Flwyddyn wedi'r brechlyn COVID-19 cyntaf, mae nifer y bobl yn y DU sydd wedi cael eu pigiad atgyfnerthu yr un fath â chyfanswm nifer y bobl sydd wedi'u brechu'n llawn yn holl wledydd tlotaf y byd.

Dywed ymgyrchwyr o gynghrair The People’s Vaccine fod gwrthodiad y cwmnïau fferyllol i rannu gwyddoniaeth a thechnoleg y brechlynnau'n agored, a'r diffyg gweithredu gan wledydd cyfoethog i sicrhau mynediad at frechlynnau yn fyd-eang, wedi creu'r fridfa berffaith i amrywiadau newydd megis Omicron. Flwyddyn ers i fam-gu o'r DU ddod y person cyntaf yn y byd i gael y brechlyn COVID-19 Pfizer/BioNTech, gwnaed cynnydd rhyfeddol wrth frechu dros dri biliwn o bobl yn llawn, ond mae llawer o rannau tlotaf y byd wedi cael eu gadael ar ôl. Er bod gwledydd fel y DU a Chanada wedi cael digon o ddosau i frechu eu poblogaethau cyfan yn llawn, dim ond digon o ddosau i frechu 1 o bob 8 o bobl y mae Affrica Is-Sahara wedi'u cael. Mae nifer y bobl yn y DU sydd wedi cael eu trydydd pigiad atgyfnerthu bron yr un fath â chyfanswm nifer y bobl sydd wedi'u brechu'n llawn ledled holl wledydd tlotaf y byd. Mae cynghrair The People’s Vaccine, sydd â dros 80 o aelodau, gan gynnwys African Alliance, Oxfam ac UNAIDS, yn galw ar gwmnïau fferyllol a chenhedloedd cyfoethog i newid cyfeiriad cyn ei bod yn rhy hwyr. Mae ymgyrchwyr yn annog y cenhedloedd cyfoethog, gan gynnwys y DU, i fynnu bod technoleg, gwybodaeth a phrofiad ymarferol ynghylch y brechlynnau llwyddiannus yn cael eu rhannu'n agored, yn ogystal ag i ariannu cynnydd enfawr o ran cynhyrchu brechlynnau ledled y byd. Mae'r glymblaid, y mae ei haelodau a'i chefnogwyr yng Nghymru yn cynnwys Oxfam Cymru, Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, Sophie Howe, Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru ac Affrica, Maint Cymru, PONT, CAFOD, Cymorth Cristnogol Cymru ac Anabledd Cymru ac Affrica, wedi condemnio Llywodraeth y DU am rwystro cynlluniau cyfredol a allai alluogi hyn i ddigwydd. Dywed y sefydliadau o Gymru y bydd gwrthodiad Llywodraeth y DU i gefnogi'r broses o rannu ryseitiau a thechnolegau'r brechlynnau, gan alluogi cynnydd brys yn yr ymgyrch frechu fyd-eang, yn arwain at golli mwy o fywydau'n ddiangen ledled y byd, ac o bosibl yng Nghymru. Fis diwethaf, pasiodd mwyafrif llethol o Aelodau’r Senedd gynnig a gyflwynwyd gan Blaid Cymru yn galw ar Lywodraeth y DU i ymuno â’r 100 o wledydd arall – gan gynnwys yr Unol Daleithiau – sy’n cefnogi cynigion i atal dros dro y rheolau sy’n rhwystro'r broses o rannu gwyddoniaeth, gwybodaeth a phrofiad ymarferol ynghylch y brechlynnau ar hyn o bryd. Mae ymgyrchwyr 'nawr yn galw ar Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, i godi ei lais ac annog y Prif Weinidog yn bersonol i weithredu. Dywedodd Sarah Rees, Pennaeth Oxfam Cymru: “Fis Rhagfyr y llynedd, cynigiwyd llygedyn o obaith i’r byd wrth i’r dos cyntaf o frechlyn gael ei roi. Ond flwyddyn yn ddiweddarach, i filiynau o bobl sy'n byw mewn gwledydd incwm isel ledled y byd, mae'r gobaith hwnnw wedi hen ddiflannu. “Mae canlyniadau cwmnïau fferyllol yn cael dal ryseitiau a thechnoleg brechlynnau a all achub bywydau yn degan yn eu dwylo yn hollol glir: nid oes yna ddigon o ddosau i bawb, a hyd nes y bydd digon ar gael, byddwn yn parhau i weld amrywiadau newydd fel Omicron yn bygwth bywydau, effeithiolrwydd brechlynnau ac adferiadau economaidd bregus ym mhob gwlad, gan gynnwys yng Nghymru a ledled y DU. “Rhaid i’r Prif Weinidog anfon neges bersonol, glir at Boris Johnson, yn datgan os yw’n parhau i roi amddiffyn patentau ac elw uwchlaw achub bywydau, ei fod yn sefyll ar ochr anghywir hanes ac na fydd Cymru’n sefyll ochr yn ochr ag ef.” Yn ôl ym mis Mawrth, rhybuddiodd y Gynghrair, ynghyd â 77 o epidemiolegwyr o rai o sefydliadau academaidd mwyaf blaenllaw'r byd, oni bai ein bod yn brechu'r byd, y byddem yn wynebu'r risg o fwtaniad feirysol a allai wneud ein brechlynnau cyfredol yn aneffeithiol. Bellach, dywed ymgyrchwyr na all y DU a Chymru ddibynnu ar y pigiad atgyfnerthu i ddod allan o'r pandemig os byddant yn gadael llawer o'r gwledydd datblygol ar ôl. Dywedodd Claire O'Shea, Cadeirydd Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru: “Mae'r amrywiad Omicron a nodwyd gyntaf yn Ne Affrica yn ein hatgoffa’n glir y dylai brechu teg byd-eang fod yn brif flaenoriaeth. “Ymateb uniongyrchol Llywodraeth y DU fu ehangu'r rhaglen atgyfnerthu ddomestig. Ond ble mae'r gweithredu brys i frechu pobl am y tro cyntaf mewn gwledydd; yn enwedig mewn gwledydd lle mae'r systemau iechyd yn llawer mwy bregus, a lle mae'r rhai sy'n dod i gysylltiad â'r feirws mewn mwy o berygl o farw? “Rhaid i'r Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru alw ar Lywodraeth y DU i gefnogi rhan ddeheuol y byd i gynhyrchu ei brechlynnau ei hun. Ni ddylid disgwyl i wledydd ddibynnu ar Covax ac elusengarwch. Dylent ddisgwyl cyfiawnder. Trwy barhau ar y trywydd hwn, ni fyddwn byth yn dod o hyd i lwybr allan o'r pandemig byd-eang hwn. Rhaid i ni weithredu ar y cyd.” Yr wythnos diwethaf, Norwy oedd y wlad ddiweddaraf o blith mwy na 100 o wledydd – gan gynnwys yr Unol Daleithiau – i gynnig ei chymorth i'r hepgoriad, a gynigiwyd i ddechrau gan lywodraethau De Affrica ac India yn Sefydliad Masnach y Byd dros flwyddyn yn ôl. Dywedodd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yng Nghymru: “Flwyddyn ar ôl rhoi’r brechlyn cyntaf, mae’r pandemig yn bell o fod ar ben i bobl dlotaf y byd, y mae miliynau ohonynt yn dal i aros am eu dos achub bywyd cyntaf. Dylai amddiffyn bywydau - yma yng Nghymru a ledled y byd - fod yn bwysicach nag amddiffyn elw allanol corfforaethau fferyllol sydd eisoes wedi gwneud biliynau o'r argyfwng hwn. Fel cenedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang, mae gan Gymru hanes hir o bartneriaeth â'r De Byd-eang a dylai Llywodraeth Cymru barhau â hyn trwy galw ar Lywodraeth y DU i orfodi cwmnïau fferyllol i rannu eu brechlynnau achub bywyd a'u technoleg â gweddill y byd.” I gael rhagor o wybodaeth ac i drefnu cyfweliadau, cysylltwch â: Rebecca Lozza, Cynghorydd y Cyfryngau a Chyfathrebu Oxfam, Yr Alban a Chymru: rlozza1@oxfam.org.uk Nodiadau i olygyddion: Mae gwybodaeth am yr arolwg o epidemiolegwyr a gynhaliwyd gan gynghrair The People’s Vaccine ym mis Mawrth ar gael yma.

Erthyglau Eraill

Gweld pob un
Newyddion

Stori Saffron

Masnach DegGwirfoddoli Gweld yr erthygl
Newyddion

Hub Cymru Africa yn cyhoeddi Panel Cynghori Is-Sahara, sydd dan arweiniad cymunedau diaspora, fel ei bartner lletya newydd

Diaspora

Ddeng mlynedd ar ôl sefydlu partneriaeth Hub Cymru Africa, bydd Panel Cynghori Is-Sahara yn cymryd yr awenau oddi wrth Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru, fel y partner lletya newydd. Ar ôl treulio 10 mlynedd yn gweithredu fel partner lletya Partneriaeth Hub Cymru Africa, bydd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) yn cael ei disodli fel partner lletya […]

Gweld yr erthygl
Newyddion, Datganiadau i'r Wasg

Cymuned Cymru ac Affrica yn dathlu tair blynedd o undod byd-eang

Celfyddydau a DiwylliantDiasporaAmrywiaeth a ChynhwysiantMasnach DegIechydHawliau DynolBywoliaethau Cynaliadwy Gweld yr erthygl