EN
< Newyddion

Cyfnerthydd gan Hub Cymru Africa

Polisi ac Ymgyrchoedd
Springboard
Mae Hub Cymru Africa yn llawn cyffro i gyhoeddi, yn nes ymlaen eleni, y byddwn yn lansio prosiect newydd sbon - Cyfnerthydd - wedi ei ariannu gyda chymorth y DU gan lywodraeth y DU. Mae sefydliadau bach, wedi eu harwain gan wirfoddolwyr yng Nghymru yn cael anhawster yn aml i broffesiynoli i’r safonau sy’n ofynnol i gael grantiau mwy. Rydym hefyd yn gweld tuedd negyddol o ran cyfranogiad y cyhoedd yn cefnogi Datblygu Byd-eang. Nod Cyfnerthydd yw rhoi cymorth i gynyddu gwybodaeth sefydliadau a gwella arferion o ran datblygu prosiectau a rheolaeth elusennol.  Y nod hefyd yw galluogi sefydliadau i gael mynediad at hyfforddiant, adnoddau ac offer. Bydd y cyfranogwyr yn gallu cymryd rhan mewn pum ffordd wahanol:
  • Cwrs (cyrsiau) dysgu ar-lein 8 wythnos
  • Grwpiau clwstwr - cymunedau dysgu ar y cyd
  • Digwyddiad ar-lein ‘Cwrdd â’r Noddwr’
  • Digwyddiadau Dysgu ar y Cyd gydag ymarferwyr ar y cyfandir
  • Ymgyrchu dros  yr Achos Cefnogi
Fel arfer, mae’r cymorth y mae Hub Cymru Africa yn ei gynnig am ddim i unrhyw sefydliad neu unigolyn sydd wedi eu lleoli yng Nghymru sydd yn gweithio ym maes cefnogi neu Ddatblygu Rhyngwladol.  Rydym yn llawn cyffro i gyhoeddi nad yw cymorth y prosiect hwn wedi ei gyfyngu i’r rheiny sydd yn gweithio yn Affrica Is-Sahara ac rydym yn croesawu’r rheiny y mae eu gwaith yn digwydd unrhyw le yn y byd i gymryd rhan. Cofiwch ddilyn ein diweddariadau ar ein gwefan ac ar ebost, a’n cyfryngau cymdeithasol am fwy o wybodaeth am y prosiect newydd, cyffrous hwn! Os hoffech fwy o wybodaeth am y prosiect hwn, cysylltwch yn advice@hubcymruafrica.org.uk.

Erthyglau Eraill

Gweld pob un
A child, standing on top of a hill, holding a Welsh flag looking over the coastline.
Blog

Cenedl Noddfa: Undod, lloches a Chroeso Cymreig

Gwrth HiliaethAmrywiaeth a ChynhwysiantHawliau DynolPolisi ac Ymgyrchoedd Gweld yr erthygl
Sticky note from a WCIA event with a child's writing on it saying: "After today I'm feeling heard and seen".
Blog, Newyddion

Beth ydy dinasyddiaeth fyd-eang?

Gweld yr erthygl
Blog, Newyddion

O Khartoum i Gaerdydd: Israa Mohammed a Rhyfel Cartref Swdan

Hawliau DynolPolisi ac Ymgyrchoedd Gweld yr erthygl
Martha Musonza Holman speaking to Wales, Africa and the World at HayMan Media studio in Newport.
Newyddion, Datganiadau i'r Wasg

Gobaith, Masnach Deg a Chariad: Taith Martha o Zimbabwe i Gymru

Gwrth HiliaethNewid Hinsawdd a'r AmgylcheddMasnach DegHawliau DynolBywoliaethau Cynaliadwy Gweld yr erthygl