EN
< Newyddion

Rhwydwaith Ewropeaidd wedi’i sefydlu i gefnogi mentrau datblygu lleol bach

Polisi ac Ymgyrchoedd
Rhwydwaith Ewropeaidd ar gyfer Mentrau Dinasyddion er Undod Byd-eang
Ar y diwrnod rhyngwladol ar gyfer dileu tlodi ar 17 Hydref 2021, sefydlodd grŵp o 10 sefydliad Rwydwaith Ewropeaidd ar gyfer Mentrau Dinasyddion er Undod Byd-eang.  Nod y rhwydwaith hwn yw cefnogi a datblygu'r mudiad o fentrau dinasyddion er undod byd-eang yn Ewrop. Bydd y rhwydwaith yn gweithredu fel llwyfan yn Ewrop i bawb sydd mewn rhyw ffordd neu'i gilydd yn cefnogi mentrau dinasyddion o'r fath mewn undod byd-eang, ac yn credu mewn datblygu dan arweiniad dinasyddion. Sefydliadau ydy mentrau dinasyddion er undod byd-eang, sy'n hyrwyddo undod a gweithio mewn partneriaeth rhwng dinasyddion Ewrop a dinasyddion mewn mannau eraill yn y byd. Mae'r ffordd y mae'r mentrau hyn yn datblygu yn amrywiol iawn, ond yn y rhan fwyaf o wledydd, maen nhw’n fentrau datblygu bach, sydd yn cael eu harwain gan ddinasyddion. Mae sefydliadau fel hyn yn bodoli ym mhob gwlad yn Ewrop. Mae mentrau dinasyddion yn cefnogi eu partneriaid yn y byd i gyflawni eu hamcanion datblygu eu hunain. Mae gwaith yr holl gannoedd o filoedd o fentrau hyn yn helpu i hyrwyddo hawliau dynol a chyflawni'r Nodau Datblygu Cynaliadwy yn fyd-eang Mae’r Rhwydwaith Ewropeaidd ar gyfer Mentrau Dinasyddion er Undod Byd-eang, yn cynnwys sefydliadau sy'n ymchwilio, yn ariannu, yn hyfforddi, yn lobïo, yn hyrwyddo neu'n galluogi cyfnewid rhwng mentrau dinasyddion er undod byd-eang. Pwrpas y rhwydwaith newydd yw cyfnewid gwybodaeth rhwng ei aelodau. Drwy wneud hyn, mae'r aelodau'n cael eu galluogi i wella eu; harferion ariannu, hyfforddi, rhwydweithio a lobïo, a chynyddu'r ddealltwriaeth o’r mudiad mentrau dinasyddion yn Ewrop. Mae'r rhwydwaith sydd bellach wedi'i sefydlu mewn chwe gwlad, yn gwahodd yr holl gyllidwyr, awdurdodau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, asiantaethau'r llywodraeth, undebau cenedlaethol, rhwydweithiau a sefydliadau ymchwil yn Ewrop sy'n ymddiddori'n frwd mewn mentrau dinasyddion ar gyfer undod byd-eang ac yn eu cefnogi, i gefnogi cenhadaeth y rhwydwaith hwn ac ymuno ag ef. Rhestr o aelodau sefydlu a chysylltiedig: I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag ysgrifennydd dros dro y rhwydwaith: European Network for CIGS tao: ErnstJan Stroes Piet Mondriaanlaan 14 3812 GV Amersfoort Yr Iseldiroedd Rhif ffôn: +31 (0)33-204 5542 E-bost: europeannetworkforCIGS@gmail.com

Erthyglau Eraill

Gweld pob un
A diverse group of people holds a vibrant "Equal Namibia" banner at a pride event, displaying joy and unity. The banner reads, "Equal Namibia: There is no freedom, if there is no equality."
Blog

Lleisiau Balchder: Adeiladu Cymuned a Gweithredu yn Affrica

Amrywiaeth a ChynhwysiantCydraddoldeb Ehywedd a Grymuso Menywod Gweld yr erthygl
A child, standing on top of a hill, holding a Welsh flag looking over the coastline.
Blog

Cenedl Noddfa: Undod, lloches a Chroeso Cymreig

Gwrth HiliaethAmrywiaeth a ChynhwysiantHawliau DynolPolisi ac Ymgyrchoedd Gweld yr erthygl
Sticky note from a WCIA event with a child's writing on it saying: "After today I'm feeling heard and seen".
Blog, Newyddion

Beth ydy dinasyddiaeth fyd-eang?

Gweld yr erthygl