EN
< Newyddion

Gwersi o Adolygiad Hanner Ffordd Springboard

Springboard by Hub Cymru Africa

Cyflwyniad a chefndir

Gyda chefnogaeth Grant Meithrin Gallu’r Gronfa Her Elusennau Bach, sefydlodd Hub Cymru Affrica brosiect dwy flynedd - Springboard - yng nghanol mis Ionawr 2021. Pwrpas Springboard yw cryfhau'r sector undod byd-eang yng Nghymru drwy ddarparu hyfforddiant, adnoddau a chyfleoedd i gydweithio a rhannu dysgu drwy wahanol gymunedau ymarfer, a chanolbwyntio ar bynciau fel gwrth-hiliaeth a rhyw. Ar y pen-blwydd cyntaf, fe wnaethom gomisiynu adolygiad i asesu'r cynnydd sydd wedi cael ei wneud hyd yn hyn, i ddeall effeithiau aci ystyried sut i gymhwyso'r gwersi sydd wedi cael eu dysgu. Mae blwyddyn gyntaf Springboard wedi cael ei rhedeg mewn cyd-destun hynod heriol, yn bennaf oherwydd y pandemig COVID-19, gyda gweithio o bell, dysgu plant o gartref a phrinder staff i gyd yn cael effaith. Fodd bynnag, rydym ar y trywydd iawn yn gyffredinol, ac wedi cyrraedd cyfanswm o 59 o sefydliadau yn y flwyddyn gyntaf a nawr,  rydym yn hyderus bod modd cyflawni'r gwaith arfaethedig. Rydym yn adlewyrchu a dysgu hefyd er mwyn gwella ar gyfer yr ail flwyddyn, a’r olaf. Dyma rywfaint o’r uchafbwyntiau!

Cwrs Rheoli Prosiectau

Y pethau rydym wedi eu cyflawni

  • 20 o gyfranogwyr
  • Roedd y rheini a gwblhaodd y cwrs yn dweud ei fod yn ddefnyddiol iawn ac yn berthnasol i'w gwaith
  • Dywedodd cyfranogwyr bod y ffordd yr oeddent yn cynllunio neu'n rhannu dysgu gyda'u partneriaid tramor wedi newid
  • Datblygodd cyfranogwyr gynlluniau, polisïau a gweithdrefnau newydd gyda’u partneriaid (e.e. dangosyddion prosiectau, dadansoddi rhanddeiliaid, damcaniaeth newid, cynllun asesu anghenion).

Y pethau rydym wedi eu dysgu

  • Roedd rhai cyfranogwyr yn teimlo bod y cwrs yn eithaf trwm a dwys, felly fe adawodd rhai tua’r diwedd
  • Fe wnaethom sylweddoli y gadawodd rhai yn arbennig pan oeddem yn annog sefydliadau i gymryd rhan ar y cyd â'u partneriaid yn Affrica (a thu hwnt).
  • Mae'n rhaid i ni sicrhau bod yr holl ddeunyddiau'n hygyrch a bod dewisiadau amgen neu 'ffyrdd o weithio o gwmpas pethau', rhag ofn y bydd cyfranogwyr yn wynebu heriau gyda’u cysylltiad rhyngrwyd e.e. toriadau pŵer a chost bwndeli data.

Y pethau rydym wedi eu newid

  • O ganlyniad i adborth, yn ogystal â bod ar gael ar-lein, cafodd cynnwys y cwrs ei e-bostio yn wythnosol, a chafodd y sesiynau Zoom eu symleiddio
  • Fel ymateb pellach, rydym yn bwriadu addasu'r ffordd y bydd ein cwrs nesaf yn cael ei gyflwyno, a fydd yn canolbwyntio ar godi arian, ac a fydd yn cyd-fynd á’r wythnos Meet the Funders.
  • Bydd llai o bwyslais yn cael ei roi ar ddysgu’n annibynnol o bell, a mwy ar gymorth unigol un i un, wedi'i deilwra i anghenion a chwestiynau penodol.

Digwyddiad Safbwyntiau Rhoddwyr a gweithgareddau Meet the Funder

Y pethau rydym wedi eu cyflawni

  • Derbyniwyd adborth positif iawn am y 4 gweminar a’r 26 o sesiynau cyngor un i un hyn, a chafodd nifer o gyyslltiadau newydd eu gwneud
  • Cafwyd cadarnhad bod 5 o'r sefydliadau a gymerodd ran yn y gweithgareddau Meet the Funder wedi llwyddo wedyn, i gael arian gan gyfranogwyr oedd yn rhoi grantiau.

Y pethau rydym wedi eu dysgu

  • Cymerodd cyfanswm o 46 o unigolion ran, gan adlewyrchu'r pwysau cynyddol ar gyllid i sefydliadau bach. Fel y cadarnhaodd un o'r cyllidwyr:
“Given the competitiveness of the round, and success rate, it’s clear the event was useful.”
  • Fodd bynnag, ni wnaethom neilltuo digon o amser ar gyfer yr holl waith paratoi, gweinyddu a logisteg y mae cyfres o ddigwyddiadau o'r maint a'r hyd hwn yn gofyn amdano.

Y pethau rydym wedi eu newid

  • Yn ein gwaith cynllunio ar gyfer Meet the Funder 2022, rydym yn caniatáu mwy o amser ar gyfer cynllunio, gweinyddu a chydlynu
  • Byddwn yn sicrhau hefyd, ein bod ni’n adeiladu gwaith dilynol i mewn gyda chyllidwyr a rhoddwyr grantiau yn ogystal â chyfranogwyr, i asesu defnyddioldeb ac effaith sesiynau, gan gynnwys canlyniadau ariannu.

Podlediad

Y pethau rydym wedi eu cyflawni

  • Cynhyrchwyd y podlediad cyntaf, ar y thema gweithio mewn partneriaeth, yn llwyddiannus gydag aelodau o'r gymuned undod byd-eang yng Nghymru a Rwanda ym mis Gorffennaf 2021, a chafodd ei gyhoeddi yn y mis Tachwedd canlynol.
  • Mae wedi cael ei lawrlwytho 43 gwaith hyd yn hyn.

Y pethau rydym wedi eu dysgu

  • Rydym wedi dysgu'r sgiliau technegol angenrheidiol ar gyfer cynhyrchu podlediadau, ac wedi nodi'r hyn sy'n gweithio orau ar gyfer gwneud recordiadau, ynghyd â gwersi fel y pwysigrwydd o gadw recordiad wrth gefn, bod angen paratoi’n dda, a darparu sesiynau briffio i siaradwyr ar ffocws y podlediad.

Y pethau rydym wedi eu newid

  • Rydym wedi ystyried dewisiadau gwrandawr wrth lunio tôn, cynnwys a hyd cyffredinol podlediadau, ac wedi gwella ein sgiliau technegol a briffio siaradwyr yn ystod y broses gynhyrchu.

Edrych tua’r dyfodol

Ar gyfer ail flwyddyn, a blwyddyn olaf Springboard, byddwn yn parhau i addasu ein gwaith yng ngoleuni'r gwersi a ddysgwyd. Er enghraifft, wrth gynllunio digwyddiadau cymhleth, mae addasiadau'n cynnwys neilltuo mwy o amser ar gyfer gwaith gweinyddu a logisteg, a sicrhau mwy o gynhwysiant a hygyrchedd o ran deunyddiau a chyfleusterau. Rydym yn symud cydbwysedd cyrsiau ar-lein hefyd, o ddysgu’n annibynnol o bell, i ddysgu un i un, gyda chyngor a chymorth dilynol. Bydd ein hymgyrch Case for Solidarity yn rhedeg o fis Gorffennaf tan fis Rhagfyr, gyda diwrnodau trafod ac arddangosfa wedi'i chynllunio tua diwedd y cyfnod ymgyrchu. Mae amser ac adnoddau prin, yn enwedig yn achos sefydliadau dan arweiniad gwirfoddolwyr, yn parhau i achosi rhwystrau sylweddol i gryfhau gallu yn y sector undod byd-eang yng Nghymru. Mae angen parhaus hefyd, i fynd i'r afael ag agweddau a chanfyddiadau ynghylch gweithio mewn partneriaeth a thegwch e.e. sicrhau bod partneriaid yn gallu cael mynediad i rwydweithio a hyfforddiant. Er gwaethaf yr heriau, rydym yn falch o'r hyn rydym wedi gallu ei gyflawni ym mlwyddyn gyntaf Springboard.

Erthyglau Eraill

Gweld pob un
Newyddion

Stori Saffron

Masnach DegGwirfoddoli Gweld yr erthygl
Newyddion

Hub Cymru Africa yn cyhoeddi Panel Cynghori Is-Sahara, sydd dan arweiniad cymunedau diaspora, fel ei bartner lletya newydd

Diaspora

Ddeng mlynedd ar ôl sefydlu partneriaeth Hub Cymru Africa, bydd Panel Cynghori Is-Sahara yn cymryd yr awenau oddi wrth Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru, fel y partner lletya newydd. Ar ôl treulio 10 mlynedd yn gweithredu fel partner lletya Partneriaeth Hub Cymru Africa, bydd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) yn cael ei disodli fel partner lletya […]

Gweld yr erthygl
Newyddion, Datganiadau i'r Wasg

Cymuned Cymru ac Affrica yn dathlu tair blynedd o undod byd-eang

Celfyddydau a DiwylliantDiasporaAmrywiaeth a ChynhwysiantMasnach DegIechydHawliau DynolBywoliaethau Cynaliadwy Gweld yr erthygl