EN
< Newyddion

Datganiad ar Gymorth Offer Amddiffynnol Personol i Namibia

Polisi ac Ymgyrchoedd
“Fel aelod o'r Deyrnas Unedig, mae Cymru wedi dewis gweithredu mewn undod â'r rhai sydd angen cymorth. “Mae'r newyddion heddiw yn rhywbeth y gallwn ni, yng Nghymru, fod yn falch ohono. Bydd chwarae rôl mewn cynorthwyo ag ymdrechion byd-eang yn erbyn COVID-19 yn sicrhau diogelwch i bawb. Dylid dathlu bod mewn sefyllfa lle gellir bod yn hyderus o gyflenwadau offer amddiffynnol personol at y dyfodol. Yn anffodus, mae yna lawer o bobl ledled y byd nad ydynt yn y sefyllfa honno. “Mae'n siomedig felly clywed a darllen sylwadau sy'n ailadrodd straeon diog a di-sail o lygredd yn erbyn ein partneriaid yn Namibia. “Mae Namibia yn un o'r gwledydd lleiaf llygredig ar holl gyfandir Affrica, ac mae’n llai llygredig na Groeg a phedair o wledydd eraill sy’n perthyn i’r UE. “Er bod mewn sefyllfa o fod yn wlad sy'n gyfrifol yn fyd-eang yn golygu y gall ein hymgais genedlaethol am gyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol ddechrau gartref, nid yw'n gorffen yno. Am dros flwyddyn, rydym wedi gweld tystiolaeth ddigamsyniol o gydgysylltiad ein byd, wrth i’r pandemig gydio a lledaenu, gan effeithio ar bob un ohonom. Efallai bod yr argyfwng iechyd cyhoeddus yn sgil COVID-19 wedi cilio rhywfaint yma, ond nid yw drosodd nes ei fod wedi’i drechu ym mhobman. Dyna pam mae'n rhaid i ni barhau i weithio mewn undod gyda'n partneriaid ledled y byd.” Claire O'Shea, Cadeirydd Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru

Erthyglau Eraill

Gweld pob un
A diverse group of people holds a vibrant "Equal Namibia" banner at a pride event, displaying joy and unity. The banner reads, "Equal Namibia: There is no freedom, if there is no equality."
Blog

Lleisiau Balchder: Adeiladu Cymuned a Gweithredu yn Affrica

Amrywiaeth a ChynhwysiantCydraddoldeb Ehywedd a Grymuso Menywod Gweld yr erthygl
A child, standing on top of a hill, holding a Welsh flag looking over the coastline.
Blog

Cenedl Noddfa: Undod, lloches a Chroeso Cymreig

Gwrth HiliaethAmrywiaeth a ChynhwysiantHawliau DynolPolisi ac Ymgyrchoedd Gweld yr erthygl
Sticky note from a WCIA event with a child's writing on it saying: "After today I'm feeling heard and seen".
Blog, Newyddion

Beth ydy dinasyddiaeth fyd-eang?

Gweld yr erthygl