EN
< Newyddion

Daw gwaredigaeth yn sgîl COVID-19 trwy feddwl a gweithio’n fyd-eang – Sector Datblygu Rhyngwladol Cymru

Polisi ac Ymgyrchoedd
Wrth i gymunedau ar draws y wlad gefnogi ei gilydd wrth wynebu COVID-19, mae’r corff sydd yn cynrychioli’r sector datblygu rhyngwladol yng Nghymru wedi galw am gefnogi ein cymuned fyd-eang hefyd.
Nid yw Grŵp Asiantaeth Tramor Cymru (WOAG), cynghrair cynrychioliadol o’r sector datblygu rhyngwladol yng Nghymru, yn ddiogel rhag heriau COVID-19. Mae brys y sefyllfa ddomestig yn amlwg, ond rydym wedi gweld y gorau o ddynoliaeth, wrth i gymunedau lleol gefnogi ei gilydd i gynorthwyo’r bregus trwy’r cyfnod digynsail hwn.  Mae’n rhaid i ni gofio hefyd ein bod yn rhan o gymuned fyd-eang, yr ydym yn dibynnu arni am gymorth hanfodol fel bwyd a meddyginiaeth, yn yr un modd ag y mae eraill yn dibynnu ar ein cymorth ni. Mae’r heriau y mae’r sector yn eu hwynebu yn debyg i’r heriau y mae sectorau eraill yn eu hwynebu.  Gweithlu llawer llai, anallu i recriwtio staff newydd a gweithgareddau codi arian sydd wedi dod i ben mwy neu lai. Mae gwledydd sydd wedi cael eu heffeithio gan ryfel, fel Syria a Yemen, eisoes mewn sefyllfa ansicr heb bwysau ychwanegol pandemig; ni fydd eu systemau gofal iechyd bregus yn gallu ymdopi â COVID-19. Roedd Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig 2020, a elwir hefyd yn COP26, i fod cael ei chynnal yn Glasgow, yr Alban, eleni.  Mae bellach wedi cael ei gohirio tan 2021, ac mae penderfyniadau pwysig a brys am ymdrin â’r argyfwng hinsawdd wedi cael eu gohirio hefyd. Er gwaethaf cyfnod heriol, dygynsail, mae gan Gymru lawer i’w ddathlu.  Mae’r sector wedi gallu symud llawer o weithgaredd addysgol ar-lein gan sicrhau y gall myfyrwyr Cymru barhau gyda’u haddysg gydag adnoddau rhagorol [1]. Mae gweminarau wedi cael eu trefnu rhwng sefydliadau yn y Gwledydd Deheuol a Chymru i sicrhau rhannu dysgu a chymorth ar y ddwy ochr. Mae rhwydweithiau rhyngwladol y sector trwy eglwysi, grwpiau masnach deg ac ysbytai, i gyd yn gweithio i ofalu am anghenion uniongyrchol y cymunedau y maent yn gweithredu ynddynt.  Mae’r sector yn gwneud hyn trwy ddatblygu a chefnogi ymgyrchoedd i ddileu dyled gwledydd datblygol sy’n cael eu dinistrio gan y pandemig hwn. Dywedodd Claire O’Shea, Cyd-gadeirydd WOAG a phennaeth Hub Cymru Africa: “Mae’r pandemig hwn yn dangos i ni pa mor fregus yr ydym i gyd i feirws nad yw’n gwahaniaethu. “Tra bod yr effeithiau yma yng Nghymru wedi bod yn ddeifiol, mae llawer o bobl yn y byd datblygol yn fwy bregus hyd yn oed. Nid oes gan y rhan fwyaf gyfleusterau golchi dwylo, mae amodau byw cyfyng yn golygu nad yw cadw pellter cymdeithasol yn opsiwn, ac mae’r bygythiadau a gyflwynir gan newyn yn fwy uniongyrchol na’r perygl o ddal COVID-19, felly eu dewis gorau yw parhau i weithio.  Mae’n rhaid i ni weithredu mewn undod gyda’n cymdogion byd-eang.  Bydd y feirws hwn yn dal yn risg cyhyd â bod gennym wledydd a systemau gofal iechyd bregus.” Dywedodd Rachel Cable, Cyd-gadeirydd WOAG a phennaeth Oxfam Cymru: “Ers degawdau, mae Oxfam wedi gweithio gyda phartneriaid yn ystod rhai o argyfyngau dyngarol gwaetha’r byd. “Rydym wedi darparu cyfleusterau dŵr a glanweithdra sydd yn achub bywydau er mwyn hybu arferion hylendid da fel golchi dwylo i fynd i’r afael â chlefydau fel colera a teiffoid, yn ogystal ag Ebola. “Ni ddychmygwyd, yma yng Nghymru, y byddai golchi dwylo mor hanfodol.  Ond nid yw golchi dwylo’n unig yn ddigon. Mae Oxfam yn bryderus iawn am y ffordd y bydd y bobl dlotaf a mwyaf bregus yn cael eu taro gan COVID-19 - gartref ac ar draws y byd. “Gallai effaith economaidd y pandemig wthio hanner biliwn o bobl i mewn i dlodi onid bai bod arweinwyr y byd yn cymryd camau brys. Mae’n rhaid i Gymru bellach gynyddu’r pwysau a dangos ei hymrwymiad i fod yn genedl sy’n gyfrifol yn fyd-eang.” DIWEDD Nodiadau i olygyddion [1] Mae’r Asiantaeth Gatholig ar gyfer Datblygu Tramor (CAFOD) wedi cyhoeddi adnoddau ar gyfer disgyblion ysgol gynradd ac ysgol uwchradd. Ar gael yn: https://cafod.org.uk/Education/Education-resources [1] Mae Maint Cymru wedi cyhoeddi gweithgareddau awyr agored, gweithgareddau ystafell ddosbarth, a mwy ar eu gwefan. Ar gael yn: https://sizeofwales.org.uk/education/education-resources/ Am gyfweliadau, cysylltwch â: Peter Frederick Gilbey, Rheolwr Cyfathrebu, Hub Cymru Africa petergilbey@hybcymruafrica.org.uk

Erthyglau Eraill

Gweld pob un
Newyddion

Stori Saffron

Masnach DegGwirfoddoli Gweld yr erthygl
Newyddion

Hub Cymru Africa yn cyhoeddi Panel Cynghori Is-Sahara, sydd dan arweiniad cymunedau diaspora, fel ei bartner lletya newydd

Diaspora

Ddeng mlynedd ar ôl sefydlu partneriaeth Hub Cymru Africa, bydd Panel Cynghori Is-Sahara yn cymryd yr awenau oddi wrth Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru, fel y partner lletya newydd. Ar ôl treulio 10 mlynedd yn gweithredu fel partner lletya Partneriaeth Hub Cymru Africa, bydd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) yn cael ei disodli fel partner lletya […]

Gweld yr erthygl
Newyddion, Datganiadau i'r Wasg

Cymuned Cymru ac Affrica yn dathlu tair blynedd o undod byd-eang

Celfyddydau a DiwylliantDiasporaAmrywiaeth a ChynhwysiantMasnach DegIechydHawliau DynolBywoliaethau Cynaliadwy Gweld yr erthygl