EN
< Newyddion

Prosiect Grymuso Menywod: Bee the Voice

Cydraddoldeb Ehywedd a Grymuso Menywod

Grymuso menywod trwy gadw gwenyn yn Adjumani, Wganda

TMae’r blogbost hwn yn rhan o gyfres ar brosiectau a ariennir gan Grant Grymuso Menywod. Yma, mae Bees for Development, a dderbyniodd grant o £50,100, yn adlewyrchu ar lwyddiant ei brosiect.

“Cyn y prosiect hwn, doeddwn i ddim yn gwybod y gallai menywod gymryd rhan mewn cadw gwenyn. Ond nawr rwy’n gwybod ei fod yn bosibl. Rwyf wedi dysgu llawer, fel gwehyddu cychod gwenyn ar ben fy hun, baetio cychod gwenyn a sefydlu gwenynfa. Rwy’n credu pan fydd fy nghwch gwenyn yn cytrefu ac yn dechrau cynaeafu, y byddaf yn gallu anfon fy mhlant i’r ysgol a phrynu rhai anghenion sylfaenol ar gyfer fy nheulu.”

Mae Felista Mokomiki yn siarad am Brosiect Bee the Voice, y bu’n cymryd rhan ynddo. Nod y prosiect oedd mynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau trwy gadw gwenyn yn Ardal Adjumani yng ngogledd Wganda, lle mae gan fenywod lai o fynediad i addysg, cyflogaeth a pherchnogaeth tir na dynion. Hwylusodd y prosiect weithdai, lle gallai menywod a dynion ddysgu am gadw gwenyn a sut y gall fod o fudd i bawb.

Hyfforddodd y prosiect hefyd 13 o ferched ifanc i ddod yn feistresi gwenynfa, a’u rôl yw darparu cyngor technegol a chefnogaeth i wenynwyr fel Felista. Mae Rebecca, un o feistresi gwenynfa newydd, yn falch o’r ffaith bod “newid meddylfryd wedi bod ymhlith merched,” gan eu galluogi i fabwysiadu cadw gwenyn fel ffordd o ennill arian. Dywedodd Hope Agwang, swyddog y prosiect: “Mae cyfleoedd cadw gwenyn wedi’u creu ar gyfer pobl o bob cefndir yn Adjumani: hynny yw’r 126 o wenynwyr, yn ferched ac yn ddynion.”

O ganlyniad i Brosiect Bee the Voice, mae’r gwenynwyr benywaidd llawn cymhelliant yn dweud wrthym eu bod bellach yn gobeithio anfon eu plant i’r ysgol, gan fod cadw gwenyn yn darparu incwm newydd. Dywedodd Rose Chandia, cyfranogwr: “Trwy gadw gwenyn, rydw i hefyd yn gallu talu ffioedd ysgol fy mhlant. Dydw i ddim eisiau gadael cadw gwenyn mwyach. Rwy’n gwybod pa mor bwysig yw hyn i fy mywyd.”

Mae’r dynion dan sylw yn dweud wrthym eu bod wedi newid eu barn am fenywod yn cadw gwenyn a byddant nawr yn ymgynghori â nhw ar y pwnc. Dywed Hope: “Rydym wedi sylwi bod nifer uchel o ddynion bellach yn ymgynghori â merched ar gadw gwenyn, sut i sefydlu gwenynfeydd, ac mae mwy o ddynion yn dyrannu tir i’w cymheiriaid benywaidd er mwyn sefydlu prosiectau cadw gwenyn.”

Mae’r gred draddodiadol nad yw menywod yn gallu cadw gwenyn yn cael ei disodli’n raddol gan y farn bod menywod yr un mor alluog ac yn gallu darparu’n ariannol ar gyfer eu teuluoedd drwy ofalu am wenyn a’u hamgylchedd.

Erthyglau Eraill

Gweld pob un
Newyddion

Stori Saffron

Masnach DegGwirfoddoli Gweld yr erthygl
Newyddion

Hub Cymru Africa yn cyhoeddi Panel Cynghori Is-Sahara, sydd dan arweiniad cymunedau diaspora, fel ei bartner lletya newydd

Diaspora

Ddeng mlynedd ar ôl sefydlu partneriaeth Hub Cymru Africa, bydd Panel Cynghori Is-Sahara yn cymryd yr awenau oddi wrth Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru, fel y partner lletya newydd. Ar ôl treulio 10 mlynedd yn gweithredu fel partner lletya Partneriaeth Hub Cymru Africa, bydd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) yn cael ei disodli fel partner lletya […]

Gweld yr erthygl
Newyddion, Datganiadau i'r Wasg

Cymuned Cymru ac Affrica yn dathlu tair blynedd o undod byd-eang

Celfyddydau a DiwylliantDiasporaAmrywiaeth a ChynhwysiantMasnach DegIechydHawliau DynolBywoliaethau Cynaliadwy Gweld yr erthygl