EN
< Newyddion

Disodli cerflun Picton gyda chofeb i Louisa Calderon, oedd yn ddioddefwr yn blentyn – Grŵp ieuenctid du

Gwrth Hiliaeth
Louisa Calderon
Credit: National Library of Wales

Mae llythyr agored i Arweinydd Cyngor Caerdydd, a drefnwyd gan bobl ifanc ar Banel Cynghori Is-Sahara (SSAP) ac a lofnodwyd gan ddinasyddion Caerdydd, yn galw ar gerflun Syr Thomas Picton i gael ei ddisodli gan gofeb i’w ddioddefwr enwocaf - Louisa Calderon.

Mae dros 80 o ddinasyddion Caerdydd wedi cydlofnodi llythyr agored - a drefnwyd gan Ieuenctid SSAP - i Arweinydd Cyngor Caerdydd yn galw ar gerflun Syr Thomas Picton i gael ei ddisodli gan gofeb i’w ddioddefwr enwocaf - Louisa Calderon, oedd yn 14 oed.

Roedd rheolaeth Picton o Trinidad yn awdurdodaidd a chiaidd ac arweiniodd hyn at achos yn ei erbyn ym 1806 yn ei gyhuddo o arteithio Calderon yn farnwrol. Roedd Calderon yn ferch mylato, oedd wedi ei chyhuddo o fod yn gysylltiedig â dwyn arian oddi wrth Pedro Ruiz, dyn busnes o Port of Spain, yr oedd mam Louisa wedi trefnu iddi fyw gydag ef fel ‘meistres’ yn 11 oed.

Methwyd cael cyfaddefiad trwy ei holi, felly rhoddodd Picton y gorchymyn i ‘Arteithio Louisa Calderon’. Ni chyfaddefodd Calderon a chafodd ei charcharu am 8 mis arall cyn cael ei rhyddhau.  Cyfaddefodd Picton orchymyn yr arteithio a chafwyd ef yn euog gan reithgor yn Lloegr.  Ni chafodd byth ei ddedfrydu fodd bynnag, ac ym 1808, cafwyd ef yn ddieuog.

Dywed y llythyr:

“Wrth i gerfluniau masnachwyr caethwaesion barhau i gael eu tynnu i lawr ar draws y byd, mae’n anochel yn cyflwyno’r cwestiwn beth ddylid ei wneud â’r plinthau gwag y mae’r cerfluniau hyn yn eu gadael ar ôl a sut dylid mynd i’r afael â’u hanes. Mae’r rhain yn gwestiynau y dylai’r cymunedau lle mae’r cerfluniau hyn wedi bod yn sefyll eu hateb. Yn wir, yn achos cerflun Picton, dylai trigolion Caerdydd gael llais.”

Dywedodd Takura Aldridge, Ieuenctid SSAP:

“Rydym yn gofyn am gymorth arweinwyr nad oes ofn arnynt wynebu’r gorffennol er mwyn symud ymlaen. Ond fel pobl ifanc “BAME”, nid oes ofn arnom wneud hyn ar ein pen ein hunain, er y byddai’n well pe byddai’r cyngor a sefydliadau eraill yn ymuno â ni.”

Dywedodd Fadhili Maghiya, Cyfarwyddwr SSAP:

"Mae mudiad #MaeBywydauDuOBwys yng Nghymru wedi gweld llawer o bobl ifanc yn codi i gondemnio a mynd i’r afael ag anghyfiawnderau hanesyddol a hiliol.  Nid yw Ieuenctid SSAP yn wahanol.  Mae angen i ni sicrhau bod y naratif yn cael ei newid i adlewyrchu mwy o gydbwysedd wrth ddweud ein hanes.

“Mae stori Louisa Calderon a’i chamdriniwr, Thomas Picton, yn rhan o hanes Cymru. Mae ei stori’n cynrychioli cannoedd ar filoedd mwy.  Mae angen dweud eu stori."

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

Mae’r llythyr llawn ar gael yma.

Ieuenctid SSAP:

Panel Cynghori Is-Sahara:

Am gyfweliadau yn Gymraeg neu yn Saesneg, cysylltwch â:

Peter Frederick Gilbey, Rheolwr Cyfathrebu, Hub Cymru Africa petergilbey@hybcymruafrica.org.uk

Erthyglau Eraill

Gweld pob un
A child, standing on top of a hill, holding a Welsh flag looking over the coastline.
Blog

Cenedl Noddfa: Undod, lloches a Chroeso Cymreig

Gwrth HiliaethAmrywiaeth a ChynhwysiantHawliau DynolPolisi ac Ymgyrchoedd Gweld yr erthygl
Sticky note from a WCIA event with a child's writing on it saying: "After today I'm feeling heard and seen".
Blog, Newyddion

Beth ydy dinasyddiaeth fyd-eang?

Gweld yr erthygl
Blog, Newyddion

O Khartoum i Gaerdydd: Israa Mohammed a Rhyfel Cartref Swdan

Hawliau DynolPolisi ac Ymgyrchoedd Gweld yr erthygl
Martha Musonza Holman speaking to Wales, Africa and the World at HayMan Media studio in Newport.
Newyddion, Datganiadau i'r Wasg

Gobaith, Masnach Deg a Chariad: Taith Martha o Zimbabwe i Gymru

Gwrth HiliaethNewid Hinsawdd a'r AmgylcheddMasnach DegHawliau DynolBywoliaethau Cynaliadwy Gweld yr erthygl