EN
< Newyddion

Lady Phyll i roi Prif Anerchiad y Bore

Mae'n bleser gennym i gyhoeddi siaradwraig Prif Anerchiad y Bore'r Uwchgynhadledd Undod Byd-eang. Phyll Opoku-Gyimah yw prif weithredwraig a chyd-sylfaenydd UK Black Pride, dathliad mwyaf Ewrop ar gyfer pobl LHDTC+ o liw. Mae hi hefyd yn brif weithredwraig y Kaleidoscope Trust, elusen flaenllaw'r DU sy'n dadlau dros hawliau dynol pobl LHDTC+ ledled y Gymanwlad. Mae hi wedi bod yn bennaeth cydraddoldeb ac addysgu yn yr Undeb Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol, wedi eistedd ar bwyllgor cysylltiadau hiliau'r Gyngres yr Undebau Llafur, ac wedi bod yn ymddiriedolwraig ar gyfer yr elusen hawliau LHDTC+ Stonewall. Mae'n cael ei hadnabod yn eang fel Lady Phyll, yn rhannol oherwydd ei phenderfyniad i wrthod MBE i brotestio rôl Prydain wrth lunio codau cosbi gwrth-LHDTC+ ar draws ei hymerodraeth. Mae’r Uwchgynhadledd Undod Byd-eang yn dod ag unigolion a sefydliadau o Gymru sy’n gweithio ar brosiectau undod ledled y byd at ei gilydd. O grwpiau cymunedol bach i ganghennau o gyrff anllywodraethol rhyngwladol yng Nghymru, rydym yn codi proffil y sector yng Nghymru. Cynhelir Uwchgynhadledd 2023 ar ddydd Mawrth 23ain Mai yng Nghanolfan Gynadledda Prifysgol De Cymru yn Nhrefforest ac ar-lein.

Erthyglau Eraill

Gweld pob un
A diverse group of people holds a vibrant "Equal Namibia" banner at a pride event, displaying joy and unity. The banner reads, "Equal Namibia: There is no freedom, if there is no equality."
Blog

Lleisiau Balchder: Adeiladu Cymuned a Gweithredu yn Affrica

Amrywiaeth a ChynhwysiantCydraddoldeb Ehywedd a Grymuso Menywod Gweld yr erthygl
A child, standing on top of a hill, holding a Welsh flag looking over the coastline.
Blog

Cenedl Noddfa: Undod, lloches a Chroeso Cymreig

Gwrth HiliaethAmrywiaeth a ChynhwysiantHawliau DynolPolisi ac Ymgyrchoedd Gweld yr erthygl
Sticky note from a WCIA event with a child's writing on it saying: "After today I'm feeling heard and seen".
Blog, Newyddion

Beth ydy dinasyddiaeth fyd-eang?

Gweld yr erthygl